Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
15 Ionawr 2019
Amser y
cyfarfod: 12.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5417
------
Dechreuodd yr eitem am 12.45
Arweiniwyd y Cynulliad gan y Llywydd i nodi munud o dawelwch, a chanwyd y gloch ar ddechrau ac ar ddiwedd y tawelwch. Arweiniodd y Llywydd y teyrngedau a galwodd ar Aelodau i gyfrannu.
Am 13.51, gohiriwyd y trafodion am 9 munud. Canwyd y gloch 5 munud cyn ailymgynnull.
Dechreuodd yr eitem am 14.00
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr): Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud o’r sefyllfa bresennol yn Ford Europe a’i heffaith bosibl ar y Ffatri Beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Dechreuodd yr eitem am 15.28
Dechreuodd yr eitem am 16.16
NDM6915 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Cymru 2014, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer cyfraddau Cymreig y dreth incwm yn 2019-20 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6902 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 18 Rhagfyr 2018.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
9 |
15 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6903 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2019-2020 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2018.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
23 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.00
Daeth y cyfarfod i ben am 18.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 16 Ionawr 2019